BILINGUAL POST
Runners gathered in Cardiff to challenge perceptions of public sexual harassment as the issue continues to impact women everywhere.
A Welsh Government survey found 10 percent of Welsh men admitted that they don’t know what public sexual harassment means or have never heard of it. Nearly one in three did not believe “catcalling” to be harmful.
With 71% of women of all ages in the UK having experienced some form of sexual harassment in a public space, the ‘Sound’ campaign seeks to shift the focus on men to examine their own behaviour and challenge others.
The Sound Run saw participants from 10 mixed gender running clubs in Cardiff gather at Overseas Apparel in Royal Arcade on Tuesday evening.
The event was created as an opportunity for male runners to listen and speak to women to highlight the work of ‘Sound’ to start conversations, educate, and help to drive change on our streets.
The run launches the latest phase of the Sound campaign examining public sexual harassment. Championing a solutions-focused approach, Sound aims to educate men, alongside showcasing what men can do to be allies in ending the public sexual harassment of women in Wales.
Liam Jones, 28, owns eco-friendly clothing brand Overseas Apparel in Royal Arcade, Cardiff, and started an accessible mixed running club about two and a half years ago.
“We aim to make our running club as inclusive as possible so we remain in a group and keep pace with the slowest person,” Liam said. “We aren’t competitive.
“Public harassment is a problem and we want to be there to support and be a part of the conversation if we can. No one should feel under threat. I want everyone to feel safe and comfortable, including my customers.
“As a community and as individuals we need to learn more about these issues and challenge problematic behaviour when we see it.”
Olivia, 24, began running with the Sunday Run Club in Cardiff in September, partially motivated by a desire to run in a group during the darker winter months.
“I definitely have been running much less in the winter when it’s darker because I don’t feel safe,” Olivia said.
“There was discussion within a running chat I’m a part of recently where women were warning each other about an incident that had occurred just before Christmas involving a man trying to grab someone. I’ve got many friends who wouldn’t run at all during the winter because of that safety concern.
“In my experience of running or walking alone, I often worry about being followed so I feel relieved when a man crosses the road. That small action makes a huge difference to me and shows they are considering how they make others feel.
“It’s really healthy for men to have these conversations. Even if they don’t feel like they are part of the problem they are part of the solution.”
The Cabinet Secretary for Social Justice, Jane Hutt, said: “Every woman should feel safe to run, walk, or simply exist in public spaces without fear of harassment. It’s not up to women to change their behaviour or limit their lives – it’s up to men to reflect on and address their own behaviours.
“When men step up as allies, listen to women’s experiences, and actively challenge problematic behaviour among their peers, we create real change in our communities. This is exactly the kind of positive action we need to make Wales a safer place for everyone.”
Taith Redeg Iawn yn galw ar ddynion i herio canfyddiadau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus
Daeth rhedwyr yng Nghaerdydd at ei gilydd i herio canfyddiadau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus wrth i’r mater barhau i effeithio ar fenywod ym mhobman.
Canfu arolwg gan Lywodraeth Cymru fod 10 y cant o ddynion Cymru wedi cyfaddef eu bod naill ai ddim yn gwybod beth mae aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn ei olygu neu erioed wedi clywed amdano. Roedd bron un o bob tri yn credu nad yw “catcalling” yn niweidiol.
Gyda 71% o fenywod o bob oed yn y DU wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol mewn man cyhoeddus, mae ymgyrch ‘Iawn’ yn ceisio symud y ffocws a’i roi ar ddynion i archwilio eu hymddygiad eu hunain a herio eraill.
Ar gyfer Taith Redeg Iawn, ymgasglodd cyfranogwyr o 10 clwb rhedeg o Gaerdydd, sy’n gymysg o ran y rhywiau, yn Overseas Apparel yn yr Arcêd Frenhinol nos Fawrth.
Crëwyd y digwyddiad fel cyfle i redwyr gwrywaidd wrando a siarad â menywod i dynnu sylw at waith ‘Iawn’ sef dechrau sgyrsiau, addysgu, a helpu i ysgogi newid ar ein strydoedd.
Mae’r daith redeg yn lansio cam diweddaraf ymgyrch Iawn sy’n archwilio aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Gan ganolbwyntio ar ddull sy’n ceisio datrysiad, nod Iawn yw addysgu dynion tra’n arddangos yr hyn y gallant ei wneud i fod yn gynghreiriaid er mwyn rhoi terfyn ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus ar fenywod yng Nghymru.
Mae Liam Jones, 28, yn berchen ar frand dillad ecogyfeillgar Overseas Apparel yn Arcêd Frenhinol, Caerdydd, a dechreuodd glwb rhedeg cymysg hygyrch tua dwy flynedd a hanner yn ôl.
“Ein nod yw sicrhau bod ein clwb rhedeg mor gynhwysol â phosib, felly rydym yn aros mewn grŵp ac yn cynnal cyflymder y person arafaf,” meddai Liam. “Dydyn ni ddim yn gystadleuol.
“Mae aflonyddu cyhoeddus yn broblem ac rydyn ni eisiau bod yno i gefnogi a bod yn rhan o’r sgwrs os y gallwn ni. Ni ddylai unrhyw un deimlo dan fygythiad. Dwi am i bawb deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, gan gynnwys fy nghwsmeriaid.
“Fel cymuned, ac fel unigolion mae angen i ni ddysgu mwy am y materion hyn a herio ymddygiad problemus pan fyddwn yn ei weld.”
Dechreuodd Olivia, 24, redeg gyda’r Sunday Run Club yng Nghaerdydd ym mis Medi, wedi’i hysgogi’n rhannol gan awydd i redeg mewn grŵp yn ystod misoedd tywyll y gaeaf.
“Dwi bendant yn rhedeg llawer llai aml yn y gaeaf pan mae’n dywyllach oherwydd dwi ddim yn teimlo’n ddiogel,” meddai Olivia.
“Roedd yna drafodaeth o fewn chat rhedeg dwi’n rhan ohono yn ddiweddar lle roedd menywod yn rhybuddio ei gilydd am achos cyn y Nadolig pan y gwnaeth dyn geisio cydio yn rhywun. Mae gen i lawer o ffrindiau sy ddim yn rhedeg o gwbl yn ystod y gaeaf oherwydd eu bod yn poeni am eu diogelwch.”
“Yn fy mhrofiad i o redeg neu gerdded ar fy mhen fy hun, dwi’n aml yn poeni am gael fy nilyn, felly dwi’n teimlo rhyddhad pan fydd dyn yn croesi’r ffordd. Mae’r weithred fach honno’n gwneud gwahaniaeth enfawr i mi ac yn dangos eu bod yn ystyried sut maen nhw’n gwneud i eraill deimlo.
“Mae’n beth iach iawn i ddynion gynnal y sgyrsiau hyn. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn rhan o’r broblem, maen nhw yn rhan o’r ateb.”
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Dylai pob menyw deimlo’n ddiogel i redeg, cerdded, neu fodoli mewn mannau cyhoeddus, heb ofni aflonyddu. Nid ddylai menywod orfod newid eu hymddygiad na chyfyngu ar eu bywydau – mater i ddynion yw myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain a mynd i’r afael ag ef.
“Pan fydd dynion yn dod yn gynghreiriaid, yn gwrando ar brofiadau menywod, ac yn mynd ati i herio ymddygiad problemus ymhlith eu cyfoedion, rydyn ni’n creu newid gwirioneddol yn ein cymunedau. Dyma’r union fath o weithredu cadarnhaol sydd ei angen i greu Cymru sy’n fwy diogel i bawb.”